Dewch i fwynhau y noson arbennig hon a fydd yn llawn o amrywiaeth cerddorol gyda’r cerddor disglair o Fodedern, Elain Rhys, a’i ffrindiau.
Mae Elain wedi dewis cynnal y digwyddiad hwn er mwyn codi arian at elusen Cyfeillion Canolfan Gerdd William Mathias sy’n gyfrifol am wasanaethu Cronfa Fwrsari i sicrhau bod plant yng Ngogledd Cymru yn cael mynediad at addysg gerddorol o’r safon uchaf.
Yn ymuno ag Elain yn y cyngerdd bydd Triawd Edern, Glesni Rhys, Ann Peters Jones, ynghyd â nifer o ddisgyblion sy’n derbyn gwersi yng Nghanolfan Gerdd William Mathias.
Meddai Elain “Mae’n wych bod fy nheulu a’m ffrindiau wedi cytuno i gefnogi elusen Cyfeillion CGWM drwy gymryd rhan yn y cyngerdd arbennig hwn. Dwi’n edrych ymlaen yn arw at y noson.”
Ffurfiwyd Triawd Edern, sef Elain, ei chwaer Glesni a’i ffrind Annest Mair Jones, yn 2014. Mae nhw wedi cael cryn lwyddiant ar hyd y blynyddoedd gan berfformio ar raglen Noson Lawen S4C, bod yn fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Bodedern a pherfformio mewn chyngherddau ledled Gogledd Cymru.
Bydd Elain, sy’n fyfyrwraig Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, hefyd yn perfformio darnau unawdol ar y delyn ac ar y piano yn y cyngerdd.
Meddai Elain “Dw i wedi bod yn lwcus iawn ar hyd y blynyddoedd i gael tiwtoriaid cerdd o’r safon uchaf yng Nghanolfan Gerdd William Mathias, megis Elinor Bennett ac Iwan Llewelyn-Jones, sydd wedi fy ysbrydoli i fynd ymlaen i astudio Cerddoriaeth yn y Brifysgol. Mae cerddoriaeth yn rhoi mwynhad mawr i mi a dwi’n edrych ymlaen at drosglwyddo hyn ar y noson.”
Mae Glesni, sy’n 17 mlwydd oed ac yn astudio ar gyfer ei Lefel A, yn gantores lwyddiannus iawn. Enillodd hi yr Unawd i Ferched dan 19 oed yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd y llynedd ac mae hefyd wedi pasio arholiad Gradd 8 Canu gydag anrhydedd dan arweiniad ei mam, Ann Peters Jones. Mae gan Ann gysylltiad agos â CGWM gan ei bod yn un o diwtoriaid llais a phiano Canolfan Gerdd William Mathias.
Yn ôl Medwyn Hughes, Cadeirydd Elusen Cyfeillion CGWM, mae galw mawr am arian Bwrsari i gefnogi astudiaethau cerddorol i blant.
Dywedodd “Mae Cyfeillion CGWM yn gweithio’n galed i godi swm uchelgeisiol o £5,000 bob blwyddyn i ariannu’r Gronfa Fwrsari. Mae’n wych medru cefnogi disgyblion disglair y dyfodol ond wrth gwrs ni fyddai hyn yn bosibl oni bai am waith caled unigolion megis Elain i gynnal digwyddiadau codi arian. Mae’n argoeli i fod yn noson wych – dewch draw i gefnogi!”
Cynhelir Cyngerdd Elain Rhys a Ffrindiau ar nos Sadwrn 19 Ionawr 2019, 7:30yh yn Nghanolfan Ucheldre, Caergybi. Mae’r tocynnau yn £10 ac ar gael o Swyddfa Docynnau Ucheldre 01407 763 361