Mae elusen Cyfeillion Canolfan Gerdd William Mathias yn darparu cymorth ariannol allweddol i CGWM drwy gyfrwng grantiau, ynghyd â chefnogi ei fyfyrwyr drwy gyfwng ei Gronfa Fwrsari a Chronfa Offerynnau Mary Costello.
Cefnogi
Yn flynyddol mae Pwyllgor y Cyfeillion yn codi bron iawn i £10,000 drwy gyfrwng tâl aelodaeth, rhoddion a drwy gynnal amryw o ddigwyddiadau i godi arian. Mae’r pwyllgor hefyd yn weithredol mewn cefnogi gweithgareddau y Ganolfan drwy gynnig cymorth ymarferol drwy stiwardio yn ystod ei ddigwyddiadau.
Ymunwch fel Aelod o Gyfeillion Canolfan Gerdd William Mathias heddiw am £10 y flwyddyn a helpwch ni i gefnogi cerddorion y dyfodol.
Y Gronfa Fwrsari
Sefydlwyd Cronfa Fwrsari Cyfeillion CGWM yn 2007 er mwyn cynorthwyo pobl ifanc talentog gyda chostau hyfforddiant a chyrsiau cerddoriaeth o’r safon uchaf a geir yng Nghanolfan Gerdd William Mathias. Caiff y gronfa ei weinyddu can Cyfeillion CGWM a CGWM.
Y Newyddion Diweddaraf
Ocsiwn addewidion Llwyddiannus!
Ar y 5ed o Orffennaf 2024, fe gynhaliwyd Ocsiwn Addewidion yng Ngwesty’r Celt, Caernarfon. Digwyddiad oedd hwn wedi ei drefnu i godi arian at ddau achos arbennig: Cyfeillion CGWM a Ward Alaw Ysbyty Gwynedd. Bydd elw’r noson yn cael ei rannu rhwng y ddau achos. Fel...
Croesawu Julie & Andreas i Gymru
Cynhaliwyd cyngerdd anffurfiol yn ddiweddar yng nghartref Elinor Bennett er mwyn codi arian tuag at Cyfeillion CGWM. Bu'r cerddorion Julie & Andreas o Norway yn ymweld â Chymru er mwyn derbyn hyfforddiant arbenigol ar gerddoriaeth Cymru gan Elinor yng Nghanolfan...
Gwledd o Gerddoriaeth: Elain Rhys a Ffrindiau
Dewch i fwynhau y noson arbennig hon a fydd yn llawn o amrywiaeth cerddorol gyda’r cerddor disglair o Fodedern, Elain Rhys, a’i ffrindiau. Mae Elain wedi dewis cynnal y digwyddiad hwn er mwyn codi arian at elusen Cyfeillion Canolfan Gerdd William Mathias sy’n gyfrifol...